Meeting Register Page

Sesiwn wybodaeth ar Gymrodoriaeth – ar agor i bawb / Information session on Fellowship - open to all
Ar ôl croesawu 45 Cymrawd newydd arbennig y mis diwethaf, rydym yn edrych ymlaen at gydnabod mwy o gyfranogiadau rhagorol yn y byd dysg.

Mae enwebiadau’n cael eu gwneud a’u hasesu gan ein Cymrodyr presennol. Byddwn yn egluro beth sydd ynghlwm â hynny, a byddwch yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiwn am y broses. Byddwch hefyd yn cael clywed gan rai o’n Cymrodyr presennol ynghylch yr hyn mae Cymrodoriaeth yn ei olygu iddynt.

Mae croeso i bawb. Efallai eich bod wedi cael eich enwebu o’r blaen, neu’n meddwl y gallech fod wedi cael eich enwebu eleni, neu’n cael eich enwebu yn y dyfodol. Er bod y broses yn gystadleuol, a dim ond y rheiny sy’n bodloni ein meini prawf o ragoriaeth sy’n cael eu hethol, rydym yn ymdrechu i fod yn groesawgar a chynhwysol. Rydym eisiau cynrychioli natur amrywiol Cymru, ei phrifysgolion a chymdeithas sifil.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech ofyn cwestiwn i gael ei ateb ar y diwrnod, cysylltwch â Fiona Gaskell: fgaskell@lsw.wales.ac.uk.

After welcoming 45 outstanding new Fellows last month, we look forward to recognising more exceptional contributions to the world of learning.

Nominations are made and assessed by our existing Fellows. We will explain what that involves, and you will have the opportunity to ask anything you like about the process. You will also be able to hear from some of our existing Fellows about what Fellowship means to them.

Everyone is welcome to attend. You may have been nominated previously, or see yourself as a nominee this year or in the future. While the process is competitive and only those who meet our criteria of excellence are elected, we strive to be welcoming and inclusive. We want to represent the diverse nature of Wales, its universities and civil society.

If you have any queries, or would like to pose a question to be answered on the day, please contact Fiona Gaskell: fgaskell@lsw.wales.ac.uk.

Jun 15, 2021 03:00 PM in London

Loading
* Required information